Asesiadau fideo

Mynd i’ch asesiad fideo

Os cawsoch lythyr yn gofyn i chi gymryd rhan mewn asesiad fideo, darllenwch a dilynwch y camau isod.

 

Beth dylwn ei wneud cyn yr alwad fideo?

Mae’n bwysig gwirio bod eich offer yn gweithio cyn eich asesiad i wneud yn siŵr bod yr alwad yn rhedeg yn esmwyth. Dylai hyn gymryd dim ond pum munud o’ch amser.

Eisteddwch mewn man tawel lle na fydd neb yn tarfu arnoch a gwnewch yn siŵr bod gennych:

checkmark

Cyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, llechen neu ffôn symudol sydd â chamera wyneb blaen, seinyddion a meicroffon

checkmark

Cysylltiad rhyngrwyd da. Os gallwch chi ffrydio cerddoriaeth neu fideos, dylai eich cysylltiad rhyngrwyd allu cynnal asesiadau fideo

checkmark

Fersiwn diweddaraf o borwyr gwe Google Chrome, Safari neu Microsoft Edge. Gallwch wirio hyn yng ngosodiadau eich porwr.

checkmark

Sicrhewch fod eich meicroffon, camera a chysylltiad rhyngrwyd yn gweithio trwy glicio ar y botwm ‘Test Video Call’ isod. Bydd ffenestr newydd yn agor i roi gwybod i chi os gallwch wneud galwad fideo

checkmark

Os cewch neges yn dweud “You are able to make WebRTC calls” dylech gau’r ffenestr hon – peidiwch â chau ffenestr y porwr.

Start Video Call



Beth sydd angen i mi ei wneud ar ddiwrnod fy asesiad?

1

Ewch i’r tudalen hwn eto a chlicio ar y botwm Start Video Call isod.

2

Efallai y cewch neges yn gofyn i chi dderbyn pob cwci. Os felly, derbyniwch bob cwci.

3

Ar eich ymweliad cyntaf, bydd ffenestr newydd yn dangos gyda neges yn gofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich meicroffon a chamera. Cliciwch ar Continue.

4

Bydd neges yn ymddangos yn gofyn am fynediad i’ch meicroffon a’ch camera. Cliciwch ar Allow.

5

Cliciwch Enter Waiting Area, darllenwch y wybodaeth ac yna cliciwch ar Next step.

6

Llenwch y ffurflen gyda’ch manylion a chliciwch ar Next step.

7

Cliciwch y blwch ticio, i gytuno i’r ‘Telerau a pholisïau’ ac yna cliciwch ar Enter Waiting Area.

8

Yna byddwch yn mynd i mewn i ystafell rithwir breifat. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gweld eich bod wedi cyrraedd a bydd yn ymuno â chi yn fuan.

Button to start your video call.

Adnoddau ychwanegol:
Canllaw help technegol
Dalen Wybodaeth
Help gydag asesiadau fideo

Cwestiynau Cyffredin

A yw asesiadau fideo yn ddiogel?

Mae galwadau fideo yn gwbl ddiogel, a diogelir eich preifatrwydd. Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal mewn ystafell asesu rithwir breifat a dim ond ein staff all fynd i mewn.

Beth dylwn ei wneud os nad yw’r botymau ‘Test call’ neu ‘Start video call’ yn gweithio?

Ewch i’n canllaw help technegol am fwy o wybodaeth.

Faint o ddata rhyngrwyd y byddaf yn ei defnyddio

Mae asesiad fideo yn defnyddio tua’r un faint o ddata â Skype neu FaceTime. Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu lechen, cysylltwch â rhwydwaith WiFi cartref neu rwydwaith WiFi diogel arall i osgoi defnyddio’ch lwfans data symudol.

Pwy y dylwn gysylltu â nhw os oes gennyf gwestiynau am fy apwyntiad?

Gallwch gysylltu â’r ddesg gymorth apwyntiadau ar 0800 288 8777 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.