Y Broses Asesu

Cyn Eich Asesiad

Trefniadau ar gyfer apwyntiadau

Byddwn yn eich ffonio neu’n anfon llythyr atoch gyda dyddiad eich asesiad. Byddwn yn ceisio trefnu dyddiad sy’n gyfleus i chi. Bydd eich llythyr apwyntiad yn cynnwys rhif cyswllt. Bydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau i gyrraedd y Ganolfan Asesu.

Os bydd angen cysylltu cyn eich asesiad dylech gysylltu â’r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777. Gall ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ddelio â’r rhan fwyaf o ymholiadau sy’n ymwneud â’ch asesiad. Mae’r Ganolfan Cysylltiadau Cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, ac ar Sadyrnau rhwng 9am a 5pm.

Os yw eich galwad yn ymwneud â gofynion arbennig: cyfieithwyr, cyfleusterau ar y llawr isaf, cydymaith awdurdodedig, ceisiadau am recordiad sain, ac ati, dylech gysylltu â ni ar 0800 288 8777.

Os bydd angen eglurhad pellach arnoch, bydd Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn hapus i’ch ffonio’n ôl o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Gofynion arbennig

Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777 cyn eich apwyntiad. Mae eu rhif ar eich llythyr apwyntiad hefyd. Mae’r Ganolfan Cysylltiadau Cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 8pm, ac ar Sadyrnau rhwng 9am a 5pm.

Cyfieithwyr

Gadewch i ni wybod o leiaf ddau ddiwrnod cyn eich asesiad os oes angen cyfieithydd arnoch ar gyfer eich asesiad. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr y bydd gennym gyfieithydd ar eich cyfer.

Cyfleusterau ar y llawr isaf

Nid oes cyfleusterau ar gael ar y llawr isaf mewn nifer fach o Ganolfannau Asesu. Os yw eich apwyntiad yn un o’r Canolfannau hyn, byddwn yn dweud hynny wrthych pan fyddwn yn cadarnhau eich apwyntiad. Os byddwch yn debygol o gael anhawster wrth ddefnyddio grisiau i wagio adeilad, dylech gysylltu â ni.

Cydymaith

Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind gyda chi i’r asesiad. Er ein bod yn cydnabod y gall cydymaith wneud cyfraniad gwerthfawr, bydd yr asesiad a’r drafodaeth bob amser yn canolbwyntio arnoch chi. Bydd y gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn egluro wrthych sut y bydd yn cynnal yr asesiad

Os oes angen i chi ddod â phlant gyda chi, dylech hefyd ddod â rhywun i ofalu amdanynt tra byddwch yn cael eich asesiad.

Recordiadau Sain

Byddwn yn ystyried ceisiadau i recordio asesiad wyneb yn wyneb pan fydd hynny’n bosibl. Rhaid i chi ofyn am hyn cyn yr asesiad.

Os ydych chi eisiau recordio’r asesiad, ffoniwch ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a Sadyrnau rhwng 9am a 5pm. Dylech wneud eich cais o leiaf ddau ddiwrnod ymlaen llaw neu cyn gynted â phosibl fel y bydd yn rhan o’r broses archebu. Gellir trefnu asesiadau sy’n cael eu recordio boed hwy’n cael eu cynnal yn un o’n Canolfannau neu yn eich cartref.

Cewch ddefnyddio eich offer eich hun i recordio’ch asesiad. Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) nifer o amodau rhesymol:

  • Rhaid i chi ddefnyddio offer sy’n gallu cynhyrchu dau gopi o’r recordiad.
  • Rhaid rhoi un copi i’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol ar ddiwedd yr asesiad.
  • Rhaid i’r offer sicrhau nad amharwyd ar y recordiad.
  • Rhaid i’r recordiad fod yn gofnod dibynadwy a chywir o’r asesiad llawn.

Cewch wybodaeth, gan gynnwys esboniad o bolisi’r DWP, ar wefan y Llywodraeth(link is external).

Newid eich apwyntiad

Os na allwch fynychu’ch asesiad, cysylltwch â’ch tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a Sadyrnau rhwng 9am a 5pm.

Os yw eich apwyntiad ar gyfer Asesiad Gallu i Weithio, byddwn yn cynnig apwyntiad newydd unwaith yn unig. Os na allwch fod yn bresennol yr eildro, bydd y DWP yn gofyn i ni anfon ffurflen atoch. Defnyddiwch y ffurflen hon i egluro wrth y DWP pam na allech fod yn bresennol.

Gofyn am ymweliad cartref

Mae asesiadau’n cael eu cynnal mewn Canolfan Asesu gan amlaf. Rydym yn deall bod rhai cyflyrau iechyd yn golygu bod teithio’n anodd. Bydd ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn nodi’r bobl hynny na fydd yn gallu teithio oherwydd eu cyflwr meddygol. Byddwn wedyn yn cynnig ymweliad cartref.

Os ydych chi’n meddwl na allwch deithio oherwydd eich cyflwr meddygol, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Bydd ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol wedyn yn ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt. Mae’n debygol y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth ychwanegol, gan gynnwys cadarnhad gan weithiwr iechyd proffesiynol sy’n eich trin.

Hawlio treuliau

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn talu treuliau:

  • i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • Tuag at gostau tanwydd ceir preifat
  • Cost parcio os nad oes lle ar gael yn y Ganolfan Asesu.

Byddwn hefyd yn talu am docynnau teithio cydymaith, perthynas, gofalwr neu blant a fyddai’n cael eu gadael ar eu pen eu hunain fel arall. Os ydych chi’n dymuno gwneud cais i gydymaith awdurdodedig deithio â chi, ffoniwch ni ar 0800 288 8777 cyn yr asesiad i roi gwybod i ni.

I gael eich treuliau, bydd yn rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen dreuliau. Gallwch ofyn i’r derbynnydd yn y Ganolfan Asesu am help i lenwi’r ffurflen. Cofiwch gadw’ch holl dderbynebau. Dylai eich treuliau gael eu talu i chi tua phythefnos ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen.

Y pethau y dylech ddod gyda chi i’r asesiad
 

  • Prawf adnabod
  • Unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei chymryd
  • Unrhyw wybodaeth gan eich Meddyg Teulu neu Arbenigwr sy’n egluro sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch

Os ydych chi’n hawlio treuliau, dewch â manylion eich cyfrif banc gyda chi, os oes gennych un.

Yr hyn fydd yn digwydd i’ch cymorth cyn eich asesiad

Tra byddwch yn aros am i’ch asesiad gael ei gwblhau, bydd y gyfradd asesiad a ddynodwyd o dan ESA yn cael ei thalu i chi. Cewch ragor o wybodaeth am hyn ar wefan y DWP(link is external).