Bydd holiadur gallu i weithio’n cael ei anfon at bawb sy’n gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), gelwir hwn yn ffurflen ESA50W hefyd. Mae’n bwysig dros ben eich bod yn llenwi’r ffurflen mor gyflawn â phosibl, gan ateb pob cwestiwn. Mae’n holl bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad sydd ar y llythyr a anfonir atoch. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gennych ar y ffurflen i benderfynu a oes angen i chi ddod atom i gael asesiad wyneb yn wyneb ai peidio.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen ESA50(link is external) neu UC50(link is external) i’ch cyfrifiadur. Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, dylech ei llenwi, ei hargraffu, ei llofnodi ac yna’i hanfon atom ni.
Os ydych chi angen help i lenwi’r holiadur gallu i weithio (ESA50W), gallwch siarad ag ymgynghorydd pwrpasol ar 0800 288 8777 erbyn hyn. Dewiswch opsiwn 1 ar gyfer Saesneg neu opsiwn 2 ar gyfer y Gymraeg. Yna pwyswch opsiwn 2 i siarad ag ymgynghorydd.
Gofynnir i chi am fanylion y gweithwyr proffesiynol neu ofalwyr sy’n gwybod fwyaf am eich cyflyrau iechyd, salwch ac anableddau. Gall y rhain fod yn:
- Ymgynghorydd neu Feddyg Arbenigol
- Seiciatrydd
- Nyrs Arbenigol, fel Nyrs Seicolegol Cymunedol
- Ffisiotherapydd
- Therapydd Galwedigaethol
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Gweithiwr cymorth neu gynorthwyydd personol
- Gofalwr
Bydd angen i ni hefyd weld unrhyw dystiolaeth feddygol neu wybodaeth arall a all fod gennych eisoes:
- Adroddiadau amdanoch neu gynlluniau triniaeth /li>
- Sganiau
- Awdioleg
- Canlyniadau pelydr-x (ond nid y pelydrau-x eu hunain)
- Eich rhestr ragnodi gyfredol
- Eich datganiad o anghenion addysgol arbennig
- Dyddiadur o ffitiau epileptig
- Eich tystysgrif o nam ar eich golwg
- Adroddiadau gan weithwyr cymorth neu broffesiynol iechyd meddwl
Os nad ydych chi wedi cael ffurflen ESA50W eto, efallai y byddai’n haws pe baech yn dechrau casglu peth o’r wybodaeth feddygol ymlaen llaw. Mae’r ffurflen hon yn ein galluogi i benderfynu a fydd angen asesiad wyneb yn wyneb arnoch. Cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen, bydd angen i chi ei llofnodi a’i dyddio, cyn ei dychwelyd yn yr amlen a amgaewyd â’r ffurflen. Mae’n bwysig dros ben eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad a nodwyd. Efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu parhau i dalu budd-daliadau i chi os na fyddwn yn cael y ffurflen hon mewn pryd. Os na allwch ddychwelyd y ffurflen mewn pryd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Hefyd mae blwch sy’n eich galluogi i egluro pam fod eich ffurflen yn hwyr. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch y ffurflen, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch neu’n gofyn i gynrychiolydd gysylltu â ni .