Eich Asesiad

Eich Asesiad

Mae angen gwybodaeth iechyd ar yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Gwneir hyn drwy broses asesu. Diben yr asesiad yw deall sut y mae eich salwch neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn trefnu ac yn cynnal asesiadau ar ran y DWP. Ar ôl yr asesiad, mae’r DWP yn gwneud y penderfyniad ar eich cais am fudd-dal.