Cwestiynau Cyffredin i Feddygon Teulu

Cwestiynau Cyffredin i Feddygon Teulu

 

Rydym yma i’ch helpu i ddeall y broses asesu. Mae hwn yn lle da i ddechrau os ydych chi’n chwilio am atebion i’ch cwestiynau. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn: 0800 288 8777 neu drwy e-bost(link sends e-mail).  Mae ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a Sadyrnau rhwng 9am a 5pm.

Pa fath o wybodaeth ddylwn i ei chynnwys yn fy adroddiad?

Yn achos y rhan fwyaf o fudd-daliadau, gan gynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd yr asesydd yn ceisio deall gallu unigolyn i weithredu ac i fapio hynny yn erbyn ei addasrwydd ar gyfer rhai tasgau sy’n gysylltiedig â gwaith. Gall eglurhad o ddiagnosis a thriniaeth fod yn ddefnyddiol iawn ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed sut y mae galluoedd corfforol, meddyliol a gwybyddol eich claf yn cael eu heffeithio. Rydym yn sylweddoli bod natur cofnodion meddygol yn gallu golygu na fydd gwybodaeth am weithredu ar gael bob amser ond byddem yn falch pe baech yn rhoi pa bynnag wybodaeth feddygol y gallwch.

Weithiau bydd y cais a gewch yn fwy penodol o ran yr hyn y gofynnir amdano a gall fod yn hunan eglurhaol.

Mae’n fuddiol cael copïau o lythyrau clinigau a /neu lythyrau o ddiagnosis clinigol, tystiolaeth arall a chymaint o wybodaeth ag yr ydych yn teimlo y gallwch ei rhoi. Mae hyn yn cadarnhau’r hyn mae eich claf wedi’i ddweud wrthym yn ei ffurflen gais, a gall ein helpu i wneud argymhelliad heb i’r claf orfod mynd i’r drafferth o fynychu asesiad yn bersonol. Po fwyaf o wybodaeth fydd gennym, y gorau fydd y cyngor y gallwn ei roi i’r Adran Gwaith a Phensiynau i’w galluogi hwy i wneud penderfyniad cywir.

Pam ydych chi’n gofyn am adroddiadau?

Bydd yr asesydd yn feddyg, nyrs neu ffisiotherapydd sydd wedi’i hyfforddi i asesu galluoedd gweithredol. Eu gwaith yw rhoi barn i Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau a fydd wedyn yn penderfynu ar yr hawl i gael budd-dal a hefyd i gael mynediad at gymorth er mwyn eu hannog i ddychwelyd i weithio trwy gyfres o gamau cymorth os yw hynny’n briodol.

Bydd eich claf yn llenwi ffurflen gais i’n helpu ond yn aml bydd angen rhywfaint o eglurhad neu ragor o fanylion arnom. Dyna pam yr ydym yn gofyn i chi am adroddiadau. Po fwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, y mwyaf tebygol y byddwn ni o allu rhoi cyngor cywir ac efallai na fydd yn rhaid i’ch claf fynd i’r drafferth o fynychu asesiad yn bersonol.

Pa fath o wybodaeth sydd ei hangen arnoch os oes gan fy nghlaf broblem iechyd meddwl?

Bydd angen i ni gael rhyw syniad o lefel y risg o hunan niweidio neu ymddygiadau gwrthgymdeithasol a’u gallu i ryngweithio â phobl eraill mewn amgylchedd gwaith. Yn fwyaf penodol, os oes gan bobl anawsterau â dirnadaeth neu i roi cyfrif cywir o’u gallu.

Os oes gan fy nghlaf anabledd dysgu, pa fath o wybodaeth fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich asesiad?

Bydd angen gwybodaeth arnom ar allu eich claf i ryngweithio â phobl eraill a’u gallu i ymuno â’r farchnad lafur. Efallai y bydd gennych wybodaeth gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a allai fod yn ddefnyddiol ac yr hoffech ei hanfon. Po fwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, y mwyaf tebygol y byddwn ni o allu rhoi cyngor cywir ac efallai na fydd yn rhaid i’ch claf fynd i’r drafferth o fynychu asesiad yn bersonol.

A oes yn rhaid i’r Meddyg Teulu gwblhau’r adroddiad?

Nac oes. Bydd y clinigwr sy’n cynnal yr asesiad yn gofyn am ragor o dystiolaeth feddygol ac, fel arfer, y Meddyg Teulu fydd yn y sefyllfa orau neu sydd â mynediad at y cofnodion priodol. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli y gall Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol fod yn gweithio mewn timau. Os oes gan weithiwr proffesiynol arall wybodaeth fwy priodol byddem yn falch o gael eu hadroddiad hwy hefyd yn lle un y Meddyg Teulu. Yn wir, byddem yn hapus i gael gwybodaeth gan bobl nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol a all gynnig gwybodaeth ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gan ffrindiau, perthnasau a gofalwyr pan fyddai hynny’n briodol.

I ble fydd fy adroddiadau’n mynd?

Bydd eich adroddiadau’n cael eu darllen gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a fydd angen i’ch claf ddod i gael asesiad wyneb yn wyneb ai peidio. Bydd yr adroddiad ar gael hefyd yn ystod yr asesiad wyneb yn wyneb fel y gall eich claf ychwanegu neu egluro unrhyw fanylion. Mae hyn yn helpu’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol i roi cyngor cadarn a rhesymegol i Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau a all wedyn wneud penderfyniad priodol a chynnig mynediad at weithgarwch cysylltiedig â gwaith pan fydd hynny’n briodol. Bydd gan Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd hawl i weld eich adroddiad pan fyddant yn gwneud eu penderfyniad terfynol.

Mae’r adroddiadau wedyn yn cael eu ffeilio gan y DWP o dan eu Polisi Diogelu Data.  Mae gwybodaeth am Bolisi Diogelu Data’r DWP i’w chael yma(link is external).

Gellir defnyddio’r adroddiad eto os bydd apêl neu os bydd angen ail ystyried.

Pam ydych chi’n gofyn i mi am adroddiadau lluosog?

Rydym yn sylweddoli bod hyn yn cymryd amser. Mae nifer o resymau pam fod hyn yn gallu digwydd.

Weithiau bydd eich claf yn gwneud sawl cais am fudd-dal a rhaid i ni ystyried pob cais ar wahân. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ofyn am wybodaeth fwy diweddar bob tro, rhag ofn bod yr amgylchiadau wedi newid.

Weithiau bydd yn digwydd am fod eich claf wedi gwneud cais am wahanol fathau o fudd-daliadau. Ar hyn o bryd, nid yw’r systemau ar gyfer gweinyddu budd-daliadau’n caniatáu rhannu adroddiadau rhwng gwahanol ffrydiau. Hefyd, mae rhai mathau o fudd-dal yn gofyn am wahanol fathau o wybodaeth. Er enghraifft, mae rhai’n rhoi mwy o bwyslais ar ddiagnosis a thriniaeth feddygol, ac mae eraill yn rhoi mwy o bwyslais ar y gallu i weithredu.

Nid yw adroddiadau’n cael eu storio gan y Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd (CHDA) felly nid yw’r Gweithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd yn debygol o weld adroddiadau blaenorol. Mae’r adroddiadau’n cael eu storio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac nid ydynt ar gael i’r CHDA.

Pam nad oes ffi am baratoi rhai adroddiadau?

Mae darparu tystiolaeth feddygol ar gyfer rhai mathau o fudd-dal sy’n gysylltiedig â ffitrwydd ar gyfer galwedigaeth eisoes wedi’i gynnwys fel rhan o gontract Meddygon Teulu’r GIG ac felly nid oes ffi ychwanegol. Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn fudd-dal o’r fath ac felly ni thelir ffi. Nid yw rhai budd-daliadau eraill, fel PIP, wedi’u cynnwys yng nghontract y GIG ac felly mae ffi benodol yn daladwy.

Beth yw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth?

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn fudd-dal ar gyfer pobl na all weithio oherwydd problemau iechyd. Bydd galluoedd gweithredol eich claf yn cael eu hasesu yn erbyn cyfres o feini prawf a bennwyd gan y Llywodraeth. Un o’r pethau pwysig i’w gwybod fel Meddyg Teulu yw bod yr asesiad yn seiliedig ar y gallu i gyflawni ystod eang o weithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith, ac nad yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â galwedigaeth arferol neu flaenorol eich claf.

Gallwch wneud cais am ESA os ydych chi’n gyflogedig, yn hunan gyflogedig neu’n ddi-waith. Ceir rhagor o wybodaeth am ESA yma(link is external).

Rwyf wedi datgan ar “Nodyn ffitrwydd” nad yw fy nghlaf yn iach. Pam mae angen yr asesiad hwn?

Fel rhan o gais eich claf am ESA, bydd angen i ni wybod mwy am alluoedd gweithredol eich claf. Bydd yr asesiad yn ein galluogi i ganfod mwy am y cyflwr neu gyflyrau sy’n effeithio arno. Mae’r ‘Nodyn ffitrwydd” yn caniatáu salwch tâl statudol am gyfnod. Mae hyn yn seiliedig ar allu’r claf i gyflawni ei swydd ei hun. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd parhau â chymorth ariannol a gwasanaethau sydd â’r nod o hybu’r claf i ddychwelyd i’r gwaith yn seiliedig ar y gallu i gyflawni ystod llawer ehangach o waith neu weithgarwch sy’n seiliedig ar waith ac nid yw’n gysylltiedig â galwedigaeth benodol.

Gall unigolyn wneud cais am ESA os yw’n gyflogedig, yn hunan gyflogedig neu’n ddi-waith. Gall gael ei drosglwyddo i ESA os yw wedi bod yn hawlio budd-daliadau eraill fel Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Analluogrwydd. Am drosolwg o ESA, ewch i wefan y DWP (link is external).

Sut allaf fi wneud cais am swydd?

Mae gennym swyddi ar gyfer cyflogeion rhan amser a llawn amser.  Mae gennym hefydswyddi gwag ar gyfer gwaith sesiynol gydag amryw o fudd-daliadau, er enghraifft anafiadau diwydiannol neu’r Asiantaeth Cyn-filwyr.