Types of Assessments

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)

Asesiadau meddygol Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Gallwch fod yn gymwys i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os ydych chi’n sâl neu’n anabl oherwydd damwain neu ddigwyddiad a ddigwyddodd mewn cysylltiad â’ch gwaith, neu os oes gennych chi glefyd sy’n gysylltiedig â’ch gwaith. Bydd y swm a gewch yn ddibynnol ar eich amgylchiadau unigol.

Am ragor o wybodaeth am hawlio budd-daliadau am ddamweiniau diwydiannol a chlefydau diwydiannol, ewch i wefan y Llywodraeth(link is external).

Beth i’w Ddisgwyl

Bydd angen asesiad i asesu lefel yr anabledd sydd wedi deillio o ganlyniad i’ch damwain neu glefyd. Gwneir hyn gan un o’n Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cymryd eich datganiad am y ddamwain neu’r salwch perthnasol, gan gynnwys unrhyw driniaeth a gafwyd o ganlyniad i hyn ac unrhyw gyfyngiadau sydd wedi codi. Bydd y datganiad wedyn yn cael ei ddarllen yn ôl i chi er mwyn i chi roi eich cydsyniad a’i lofnodi.

Gallwch ddod â gwybodaeth neu dystiolaeth feddygol ychwanegol gyda chi i’r asesiad i gynorthwyo’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol i baratoi ei adroddiad. Gall cydymaith fod yn bresennol hefyd i roi cymorth a gwybodaeth.

Efallai y bydd angen i’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol gynnal archwiliad corfforol. Os felly, bydd angen cael eich cydsyniad llafar cyn unrhyw archwiliad. Rydych yn cael eich annog i wneud cymaint o’r archwiliad ag sy’n gyfforddus i chi heb gymorth. Mae’r archwiliad wedi’i gynllunio i asesu eich gallu i weithredu ac mae’n wahanol i archwiliad mewn lleoliad diagnostig neu driniaeth. Ni fydd angen i chi dynnu eitemau o’ch dillad isaf.

Mae asesiadau cyflwr meddyliol yn cael eu cynnal drwy arsylwi yn erbyn meini prawf meddygol cydnabyddedig.

Cyn gynted ag y bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi casglu’r holl wybodaeth berthnasol, bydd eich archwiliad yn dod i ben. Bydd wedyn yn treulio amser yn ei gwerthuso fel y gall gwblhau gweddill yr Adroddiad Asesu. Bydd yn cyflwyno gwybodaeth i’r DWP ar lefel yr anabledd sydd wedi deillio o’r ddamwain neu’r clefyd.