Y Broses Asesu

Ar Ôl Eich Asesiad

Adroddiad Asesu

Ar ôl eich asesiad bydd ein Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn cwblhau adroddiad drwy ddefnyddio’r meini prawf a bennwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gwneir hyn er mwyn i Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau gael barn feddygol ddiduedd, y gellir ei chyfiawnhau ar sut y mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch chi.

Bydd Adroddiad Asesu’n disgrifio eich cyflyrau meddygol a’r gweithgareddau rydych yn eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd hefyd yn cynnwys arsylwadau’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol, a chanlyniadau unrhyw archwiliadau meddygol a wnaethpwyd.

Mae’r adroddiad yn un darn o wybodaeth a ddefnyddir gan y DWP wrth benderfynu ar eich cais. Nid yw’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n cynnal eich asesiad yn gwneud unrhyw benderfyniad ar eich lwfans, budd-dal neu gredydau. Ni fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gwybod beth fydd canlyniad eich cais.

Gallwch ofyn am gopi o’r adroddiad llawn o swyddfa’r DWP sy’n delio â’ch cais.

Penderfyniadau ar geisiadau

Bydd y DWP yn eich hysbysu o ganlyniad eich cais.

Y DWP sy’n gwneud penderfyniadau ar geisiadau. Dylech gyfeirio unrhyw gwestiynau neu bryderon am ganlyniad eich cais at swyddfa’r DWP sy’n delio â’ch cais. Byddant yn gwybod pa wybodaeth a ddefnyddiwyd ganddynt i wneud penderfyniad ar eich cais. Ni fydd y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn gwybod hyn. Mae gennym ni ddim rôl o ran gwneud penderfyinadau.

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â swyddfa’r DWP sy’n delio â’ch cais. Bydd rhif y swyddfa ar y llythyrau rydych wedi’u cael yn gysylltiedig â’ch cais.

Yn achos budd-daliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ac Anafiadau Diwydiannol, ffoniwch 0800 012 1888 i gael y rhif cywir. Os oes gennych chi anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch ffonio Canolfan Byd Gwaith drwy ffôn testun ar 0800 023 4888.

Ar gyfer budd-daliadau Anabledd a Gofalwyr, ffoniwch 0845 712 3456 i gael y rhif cywir.  Os oes gennych chi anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch eu ffonio drwy ffôn testun ar 0845 722 4433.