Amdanom Ni

Mewn Partneriaeth â’r DWP

Mae’r Llywodraeth yn talu budd-daliadau penodol i bobl sydd heb waith oherwydd salwch tymor hir neu o ganlyniad i anabledd neu gyflwr iechyd. Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu mai’r ffordd orau o asesu cymhwysedd yw trwy asesiad iechyd annibynnol o dan y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd.

Mae’r Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd yn cyflenwi’r gwasanaeth ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Daeth y contract rhwng y DWP a’r Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd i rym ar 1 Mawrth 2015.

Mae Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol o’r Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd yn cynnal asesiadau un i un ag unigolyn sy’n gwneud cais am fudd-daliadau ac mae wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r DWP. Mae’r DWP wedyn yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu ar hawl yr unigolyn i gael budd-dal.

Mae gan bob un o’r Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol o leiaf dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso, maent wedi’u cofrestru â’u Corff Meddygol perthnasol ac maent wedi’u cymeradwyo gan Brif Gynghorydd Meddygol y DWP.

Mae’r DWP yn mynnu bod mesurau sicrwydd ansawdd llym ar waith ac mae’n rheoli ymrwymiadau’r contract drwy gyfrwng ystod o gytundebau lefel gwasanaeth a chyfarfodydd adolygu rheolaidd.

Mae’r Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd yn gyfrifol am:

  • Recriwtio a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Gwirio’r dystiolaeth feddygol a roddir gan y cwsmer cyn gofyn am asesiad
  • Gofyn am ragor o dystiolaeth feddygol gan feddygon teulu neu glinigwyr eraill sy’n trin yr unigolyn pan fydd yr wybodaeth yn debygol o’n galluogi ni i roi cyngor i’r DWP a all osgoi’r angen am asesiad wyneb yn wyneb
  • Trefnu dyddiad ac amser ar gyfer asesiadau wyneb yn wyneb
  • Cynnal asesiadau wyneb yn wyneb
  • Paratoi adroddiad i’r DWP yn dilyn asesiad. Gall hyn ddigwydd ar ôl adolygiad cychwynnol o holiadur yr unigolyn wedi’i ategu gan dystiolaeth feddygol bellach, neu gall fod ar ôl asesiad wyneb yn wyneb

Mae’r DWP yn gyfrifol am:

  • Dylunio a datblygu’r fformat a’r meini prawf ar gyfer asesiadau
  • Adolygu’r holl dystiolaeth a gyflwynir gan unigolyn, gan gynnwys ond heb ei chyfyngu i adroddiad ar yr asesiad, a gwneud penderfyniad ar hawl unigolyn i gael budd-dal
  • Pennu targedau a matricsau cyflenwi ar gyfer ansawdd a gwasanaeth y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd
  • Monitro’r gwasanaeth a ddarperir yn erbyn gofynion y contract
  • Awdurdodi protocolau asesu a ddefnyddir mewn ceisiadau clinigol

Mae Llywodraeth EM yn gyfrifol am:

  • Diwygiadau Lles a pholisïau eraill sy’n ymwneud â budd-daliadau
  • Deddfwriaeth sy’n amlinellu’r meini prawf a gaiff eu defnyddio mewn asesiadau