Types of Assessments

Veterans UK

Asesiadau Veterans UK

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnal asesiadau ar ran Veterans UK sy’n cynghori ar anabledd sy’n deillio o anafiadau neu salwch a gafwyd wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Gall Veterans UK ofyn am adolygiadau o gyflyrau a oedd wedi’u derbyn yn flaenorol a hefyd o gyflyrau sy’n cael eu honni o’r newydd.

Gweler gwefan Veterans UK (link is external) am wybodaeth fanwl am bensiynau ac iawndal sy’n gysylltiedig â gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog.

Beth i’w Ddisgwyl

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn trafod eich hanes meddygol a’r gweithgareddau rydych yn eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ond ni fydd yn gofnod air am air.

Gallwch ddod â gwybodaeth neu dystiolaeth feddygol ychwanegol gyda chi i’r asesiad i gynorthwyo’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol i baratoi ei adroddiad. Gall cydymaith fod yn bresennol hefyd i roi cymorth a gwybodaeth.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn trafod eich hanes perthnasol ac yn cynnal yr asesiad priodol sy’n seiliedig ar weithrediad er mwyn canfod sut y mae’r problemau’n effeithio arnoch.

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan aseswyr Veterans UK i benderfynu ar unrhyw bensiwn sy’n daladwy.