Amdanom Ni

Siarter y Cwsmer

 

Datganiad Cenhadaeth

Ein nod yw helpu cwsmeriaid i symud ymlaen â’u bywydau drwy ddarparu gwasanaeth sensitif, parchus, o ansawdd da.

Ein hymrwymiad i chi

Rydym yn ymrwymo i drin pob un o’n cwsmeriaid yn deg.
Byddwn yn gwrtais a chymwynasgar.
Byddwn yn eich trin â pharch.
Byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud.
Byddwn yn diogelu eich gwybodaeth bersonol.

Byddwn yn disgwyl ambell beth yn ôl gennych chi.
Rhoi gwybodaeth gywir i ni.
Rhoi rhagor o wybodaeth os byddwn yn gofyn.
Dweud wrthym os bydd rhywbeth yn newid.
Bod yn brydlon ar gyfer apwyntiadau.
Trin ein staff â pharch.

Rydym yn ymdrechu i wneud ein proses yn hawdd i’w deall.
Byddwn yn rhoi gwybodaeth eglur a chywir i chi.
Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Byddwn yn egluro beth ddylech ei wneud nesaf.

Rydym yn ymdrechu i wneud ein gwasanaethau’n hawdd i’w defnyddio.
Byddwn yn dweud wrthych chi pa bryd ac i ble i fynd ar gyfer eich apwyntiad.
Byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau eglur os bydd angen i chi deithio.
Byddwn yn dweud wrthych os bydd angen i chi ddod ag unrhyw beth gyda chi.

Rydym yn ymdrechu i gyfathrebu yn y ffordd sydd orau i chi.
Gallwch ddefnyddio eich cyfieithydd eich hun neu ofyn i ni am gyfieithydd.
Gallwch ofyn am gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain.
Gallwch ddod â ffrind, perthynas neu ofalwr gyda chi i’ch apwyntiad.
Gallwch gael gwybodaeth mewn fformat gwahanol, fel Braille neu brint bras.

Rydym yn ymdrechu i wella ein gwasanaeth gyda’ch help chi>
Dywedwch wrthym sut y gallwn eich gwasanaethu’n well.
Dywedwch wrthym pan fyddwn wedi gwneud rhywbeth yn dda.
Dywedwch wrthym os ydych chi’n cael trafferth ag unrhyw un o’n gwasanaethau.
Byddwn yn defnyddio eich adborth i wella sut yr ydym yn gwneud pethau.

Rydym yn ymdrechu i’w gwneud yn haws i chi roi adborth i ni.
Ffôn: 0800 288 8777 (rhif rhad ffôn)
E-bost: customer-relations@chda.dwp.gov.uk(link sends e-mail)
Cyfeiriad: Customer Relations Team
Health Assessment Advisory Service
Room 4E04, Quarry House
Quarry Hill, Leeds LS2 7UA

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn cael ei ddarparu ar ran y DWP gan y Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd.