Types of Assessments

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Asesiadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Gallu i Weithio

Os ydych chi’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn mynnu eich bod yn cael Asesiad Gallu i Weithio sy’n ystyried sut y mae eich salwch neu’ch cyflwr yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd.

Mae ESA wedi cymryd lle’r Budd-dal Analluogrwydd. Rhaid i bawb a oedd yn arfer hawlio budd-daliadau analluogrwydd gael Asesiad Gallu i Weithio newydd.

Mae’r Asesiad Gallu i Weithio yn un rhan o’r broses a ddefnyddir gan y DWP i asesu eich hawl i gael ESA. Bydd holiadur yn cael ei anfon atoch a bydd yn rhaid i chi ei gwblhau a’i ddychwelyd at y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd. Ar ôl i chi ddychwelyd yr holiadur, bydd Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol cymwysedig yn cynnal asesiad papur cychwynnol. Yn ystod yr archwiliad cynnar hwn, bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn chwilio am wybodaeth i benderfynu a oes angen asesiad wyneb yn wyneb arnoch ai peidio a bydd yn hysbysu’r DWP o hynny. Efallai y bydd gan y DWP ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad ar unwaith ar eich hawl i gael budd-daliadau.

Os na fydd gan y DWP ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad ar unwaith, bydd y DWP yn mynnu eich bod yn cael asesiad wyneb yn wyneb. Mae mwyafrif yr asesiadau’n cael eu cynnal mewn Canolfan Asesu. Gellir trefnu ymweliad cartref os oes tystiolaeth feddygol sy’n cadarnhau na allwch adael eich cartref i fynychu Canolfan Asesu.

Yn ystod cyfnod hawlio, mae’n arferol i ofyn i chi fynychu Asesiad Gallu i Weithio fwy nag unwaith a bydd holiadur newydd yn cael ei anfon atoch bob tro i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sut y mae eich cyflwr yn effeithio arnoch ar y pryd.

Am ragor o wybodaeth am fudd-daliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth , ewch i wefan y Llywodraeth(link is external).

Beth i’w ddisgwyl

Bydd yr asesiad yn edrych ar effeithiau unrhyw gyflwr iechyd neu anabledd ar eich gallu i wneud pob math o weithgareddau o ddydd i ddydd. Bydd yn cael ei gynnal gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn trafod eich hanes meddygol a’r gweithgareddau rydych yn eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chofnodi ond ni fydd yn gofnod gair am air.

Gallwch ddod â gwybodaeth ychwanegol gyda chi i helpu’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol i baratoi ei adroddiad. Gallwch ddod â chydymaith i’ch helpu a’ch cefnogi a gall hefyd roi gwybodaeth.

Pan yn briodol , efallai y cewch archwiliad meddygol sydd â’r nod o asesu eich gallu i weithredu ac nid yw’r un fath ag archwiliad mewn lleoliad diagnostig neu driniaeth gyda meddyg teulu neu Ymgynghorydd.

Bydd angen eich cydsyniad llafar cyn y gellir bwrw ymlaen ag unrhyw archwiliad corfforol, os bydd angen un. Rydych yn cael eich annog i wneud cymaint o’r archwiliad ag sy’n gyfforddus i chi. Ni fydd yn rhaid i chi dynnu eitemau o’ch dillad isaf. Ni fydd angen archwiliad corfforol bob amser.

Pan fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen, bydd eich cyfweliad wyneb yn wyneb yn dod i ben. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol wedyn yn gwerthuso’r wybodaeth, gan awgrymu’r disgrifyddion (ymadroddion a ddiffinnir gan y DWP), ac yn ysgrifennu cyfiawnhad o’u dewisiadau, i gwblhau Adroddiad Asesu i’r DWP.

Gelwir yr Adroddiad Asesu yn ESA85W a bydd yn cael ei anfon yn electronig at y DWP yn syth ar ôl ei gwblhau.