Types of Assessments

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

 

Asesiadau Lwfans Byw i’r Anabl

Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn fudd-dal di-dreth i blant ac oedolion anabl o dan 65 oed i helpu â chostau ychwanegol a all godi o ganlyniad i anabledd.

Am ragor o wybodaeth am fudd-daliadau Lwfans Byw i’r Anabl, ewch i wefan y Llywodraeth(link is external).

Beth i’w Ddisgwyl

Os byddwch yn gwneud cais am Lwfans Byw i’r Anabl, efallai y gofynnir i chi gael asesiad. Gwneir hyn fel arfer am fod angen rhagor o wybodaeth cyn y gall y DWP wneud penderfyniad ar y cais.

Bydd yr asesiad yn cael ei wneud gan ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ac mae’n debygol o fod yn wahanol i’r hyn y byddech yn disgwyl ei gael gan feddyg teulu neu ymgynghorydd ysbyty. Nid yw’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yno i wneud diagnosis nac i drin cyflwr meddygol ond i asesu sut y mae’r cyflwr yn effeithio arnoch. I wneud hyn, efallai y bydd angen i’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol gynnal archwiliad corfforol, neu efallai na fydd angen am hynny.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn casglu gwybodaeth o’ch hanes. Gallwch ddod â gwybodaeth neu dystiolaeth feddygol ychwanegol gyda chi i’r asesiad i helpu’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol i baratoi ei adroddiad. Gall cydymaith ddod gyda chi i roi help a gallant hefyd roi gwybodaeth.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn trafod eich hanes meddygol, unrhyw feddyginiaeth a’r gweithgareddau rydych yn eu gwneud mewn diwrnod arferol. Bydd hyn yn cael ei gofnodi ond ni fydd yn gofnod gair am air.

Bydd angen eich cydsyniad llafar cyn y gellir mynd ymlaen â’r archwiliad corfforol, os bydd angen un. Rydych yn cael eich annog i wneud cymaint o’r archwiliad ag sy’n gyfforddus i chi. Ni fydd yn rhaid i chi dynnu eitemau o’ch dillad isaf.

Pan fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen, bydd eich asesiad yn dod i ben. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol wedyn yn adolygu ac yn gwerthuso’r asesiad, ac yn cwblhau’r Adroddiad Asesu ar gyfer Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr adroddiad, byddant yn egluro ac yn cyfiawnhau eu barn. Bydd yr adroddiad wedi’i gwblhau yn cael ei ddychwelyd i’r DWP.